P-04-591 Cyllid Teg ar gyfer Llywodraeth Leol 

Manylion:

 

Mae cangen UNSAIN Castell-nedd Port Talbot yn galw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried y toriadau arfaethedig o hyd at 4.5% yn y gyllideb ar gyfer Llywodraeth Leol.

Mae cyllidebau Llywodraeth Leol wedi’u hymestyn i’r eithaf, a bydd unrhyw doriadau pellach yn cael effaith ddinistriol ar wasanaethau lleol y mae’r mwyaf bregus yn ein cymdeithas yn dibynnu arnynt. Bydd toriadau i wasanaethau llywodraeth leol yn rhoi pwysau pellach ar y GIG, sydd eisoes wedi’i orlwytho. Mae’r toriadau yn rhai cibddall, ac ni fydd yr arian sy’n cael ei ddargyfeirio o lywodraeth leol i’r GIG yn cael yr effaith a ddymunir. Mae gwasanaethau cymdeithasol llywodraeth leol yn cael effaith gadarnhaol ar gadw pobl allan o ysbytai, ac mae cynnal y gwasanaethau hyn yn hanfodol er mwyn lleddfu’r pwysau ar y GIG.

Prif ddeisebydd : UNISON

Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 23 Medi 2014

Nifer y llofnodion: 180 llofnod a’r lein a mwy na 800 gan deiseb gysylltiedig